Gweddïau ar gyfer Oedolion a Phob Oed 25 Tachwedd–1 Rhagfyr 2018
Adult & All Age prayers in Welsh
Trwy’r drych
Ioan 18.33-37
Galwad i addoli
Mwy nerthol na thonnau’r môr,
cryfach na’r storm wylltaf,
harddach na machlud haul,
mwy disglair na’r sêr yn y nos.
Felly y mae gwirionedd Duw.
Felly y mae cariad Duw.
Felly y mae ein Harglwydd Iesu.
Dewch i foli Crist y Brenin!
Amen.
Gweddi ymgynnull
Dduw cariadlon, yn dy fab Iesu
rwyt yn dangos i ni beth yw gwir nerth a gwirionedd cariad.
Na foed i ni fyth ddrysu rhwng goruchafiaeth a brenhiniaeth,
na chwaith dderbyn awdurdod ond gwrthod cyfrifoldeb,
ond boed i ni gydweithio
â gweledigaeth, trugaredd a didwylledd
fel y deled dy deyrnas ar y ddaear megis yn y nef.
Amen.
Gweddi ddynesu
Arglwydd y nefoedd, Arglwydd y ddaear,
daeth brenhinoedd ag anrhegion i ti ar adeg dy eni.
Roeddent yn deall mai ti oedd yr un –
y bywyd, y gwirionedd, unig Fab Duw.
Deuwn yn awr a’th alw yn frenin,
a deuwn â’n bywydau a phopeth –
oherwydd ti yw’r gwirionedd a’r cariad a’r gras.
Pan fyddwn yn dy weld di, gwelwn wyneb Duw.
Amen.
Gweddi o gyffes
Maddau i ni, Arglwydd,
pan fyddwn yn derbyn sefyllfaoedd y byd yn ddifeirniadaeth
ac yn eu galw yn wirionedd;
pan fyddwn yn edrych â llygaid agored ar bethau bydol
ond â llygaid caeëdig ar y tragwyddol;
pan na fyddwn yn gweld dim ond anawsterau tra gweli di gyfleoedd;
pan fyddwn yn ochri ag awdurdod ac yn anwybyddu’r bregus;
pan fyddwn yn ysgaru nefoedd a daear.
Maddau i ni, a chynorthwya ni
i weld yn glir, i weithredu’n ddoeth ac i wasanaethu â chariad.
Yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi o fawl
Molwn di, Arglwydd Iesu,
am mai ti yw ein gwirionedd mewn byd o newyddion ffug;
am mai ti yw ein gwir Waredwr mewn byd o dduwiau gau;
am mai ti yw ein heddwch mewn byd o awdurdodau gorthrymus;
am mai ti yw ein sylwedd mewn byd o freuddwydion gwag;
am mai ti yw ein gobaith mewn byd sy’n dioddef.
Rwyt ti’n rhoi cip ar y nefoedd ac yn rhoddwr bywyd
i’r byd i gyd,
a molwn di, Arglwydd Iesu, molwn di.
Amen.
Gweddïau o eiriolaeth
Dduw cariadlon,
gweddïwn na fydd y rhai sydd mewn awdurdod yn
ffugio’r gwir er mwyn dal gafael ar eu grym.
Boed i frenhiniaeth Crist eu harwain.
Gweddïwn dros y rhai a gamddefnyddir neu a gam-drinir
gan rai mewn safleoedd o awdurdod.
Boed i frenhiniaeth Crist eu harwain.
Gweddïwn dros y rhai a gollodd eu rhyddid
am herio anghyfiawnder.
Boed i frenhiniaeth Crist eu harwain.
Gweddïwn dros ein heglwys, y byddwn yn ddigon hyderus
i rannu dy wirioneddau a wyddom, ac y byddwn yn ddigon
gwylaidd i chwilio am y gwirioneddau yr ydym eto i’w dysgu.
Boed i frenhiniaeth Crist ein harwain.
Gweddïwn dros y naill a’r llall a throsom ein hunain, y byddwn
yn agored i dderbyn y gwirionedd ac yn awyddus i dderbyn doethineb.
Boed i frenhiniaeth Crist ein harwain.
Amen.
Gweithgaredd gweddi myfyriol
Ar un ochr i ddarn bach o bapur, ysgrifennwch eiriau yr ydych
yn eu cysylltu â’r nefoedd. Ar yr ochr arall, ysgrifennwch
eiriau yr ydych yn eu cysylltu â’r ddaear.
Eisteddwch yn dawel, ac yna gweddïwch:
Arglwydd Iesu, rwyt ti yn dod â nefoedd a daear ynghyd,
ac yn Arglwydd y naill a’r llall. Una’r hyn yr ydym wedi’i rannu,
a chyfanna’r hyn yr ydym wedi’i ddinistrio.
Gofynnwn hyn yn dy enw di.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Ailadroddwch y symudiadau priodol ar ôl pob llinell.
Credwn mai’r nefoedd yw cartref heddwch ac undod
(pwyntiwch i fyny).
Boed felly ar y ddaear hefyd. (meimio’r ddaear gron).
Credwn mai’r nefoedd yw cartref cyfanrwydd a derbyn.
Boed felly ar y ddaear hefyd.
Credwn mai’r nefoedd yw cartref gwaredigaeth a rhyfeddod.
Boed felly ar y ddaear hefyd.
Credwn mai’r nefoedd yw cartref gwirionedd a chariad.
Boed felly ar y ddaear hefyd.
Gyda thi, Arglwydd Iesu, fel ein Gwas-Frenin a chyfaill ffyddlon.
Amen.
Gweddi i gloi
Chwiliwch am y gwirionedd ym mhobman.
Ceisiwch y doeth.
Defnyddiwch eich gallu i wasanaethu.
A dewch â’r nefoedd i’r ddaear trwy eich bywyd,
eich geiriau a’ch gwedddïau.
Yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi bersonol
Arglwydd Iesu, ymddangosaist yn ddi-rym gerbron Peilat,
ac eto ynot ti y mae’r holl rym a’r holl wirionedd.
Cynorthwya fi i ddirnad dy wirionedd yn fy mywyd fy hun,
ac ym mywyd y byd, fel y byddaf yn hyderus, yn drugarog
ac yn ymrwymedig i achosion cyfiawnder a heddwch.
Gweddïaf yn dy enw di.
Amen.