Gwnewch rywbeth gwahanol
Marc 1.14-20 Yr Ystwyll 3
Galwad i addoli
Down o drefn arferol ein dyddiau
i gyfarfod Duw – yr un a’n gwnaeth,
ac a roddodd i ni ein bara beunyddiol
trwy’r wythnos sydd newydd fynd heibio.
Gweddi ymgynnull
Arglwydd cariadlon,
diolch i ti am ein cyfarfod lle rydym ni,
yn hynt a helynt ein bywydau beunyddiol.
Helpa ni i glywed dy alwad,
i adnabod dy lais,
ac i ymateb i’th wahoddiad
i fod gyda thi yn awr.
Amen.
Gweddi ddynesu
Galwodd yr Arglwydd y disgyblion i fod yn bysgotwyr dynion. Mae’n galw arnom ni i’w ddilyn ef, i ymddiried ynddo, i ddibynnu arno ac i roi ein ffydd ynddo. Dewch i fwrw ein rhwydau yn ei ddyfroedd ef a chynnig ein hunain i’w foli a’i addoli.
Amen.
Gweddi o addoliad
Ymateb ar ôl pob llinell:
tywalltwn ein calonnau mewn moliant.
Dduw ein hachubiaeth:
Dduw gogoniant:
Dduw ein craig:
Dduw ein noddfa:
Dduw trugaredd:
Dduw y caredigrwydd cariadus:
Dduw pob nerth:
Dduw sy’n galw ‘dilynwch’:
arwain ni i ble bynnag rwyt am i ni fynd.
Amen.
Gweddi o gyffes
Gofynnwch i wahanol bobl, o’u llefydd eu hunain, ddarllen pob llinell sydd mewn teip trwm.
Arglwydd, yn union fel Jona, gall ofn ein rhwystro rhag lledaenu dy ‘newyddion da’, neu rhag ymateb i’th alwad i wneud rhywbeth gwahanol.
Ofn bod yn amhoblogaidd.
Ofn bod yn annigonol.
Ofn gorfod rhoi’r gorau i’n meddiannau.
Ofn colli’r bobl rydym yn eu caru.
Ofn colli cyfeillgarwch.
Ofn newidiadau anodd yn ein bywydau.
Ofn bod yn wahanol.
Mae’n ddrwg gennym, Arglwydd, am adael i’n hofnau ein trechu.
Mae’n ddrwg gennym am adael i bwysau cymdeithasol neu deuluol ddylanwadu ar ein penderfyniadau.
Helpa ni i ymateb i’th alwad di yn ddi-oed.
Helpa ni i bwyso arnat ti.
Helpa ni i ymddiried ynot ti.
Helpa ni i ddysgu oddi wrthyt ti.
Helpa ni i’th ddilyn di.
Helpa ni i ledaenu’r newyddion da.
Gofynnwn yn dy enw nerthol di.
Amen.
Sicrwydd o faddeuant
Iesu, daethost gan gyhoeddi’r newydd da am Dduw, a dioddefaist y groes oherwydd dy gariad tuag atom ni. Maddeuir i ni trwy dy aberth di. Boed i ni rannu’r newydd da hwn – fel y daw eraill i wybod am dy ryddid cariadus yn eu bywydau. Amen.
Gweddi o fawl a diolchgarwch
Gwahoddwch bawb i ysgrifennu am rywbeth da sydd wedi digwydd iddynt yn ddiweddar, ac yna rhoi eu papur mewn rhwyd bysgota yn y tu blaen.
Diolchwn i ti, Arglwydd, am yr holl fendithion hyn a ddaliwyd yn dy rwyd newyddion da. Diolch i ti am y newidiadau yr wyt wedi eu hachosi yn ein bywydau, ac am y gwahaniaeth yr wyt yn dal i’w wneud wrth i ni dy ddilyn di a dysgu oddi wrthyt.
Diolch i ti am beidio byth â gofyn i ni fynd tu hwnt i’n cyraeddiadau. Diolch i ti am y llu bendithion rydym yn eu derbyn pan fyddwn yn dyfalbarhau â’r hyn y byddi di’n gofyn i ni ei wneud. Boed i ni fod yn fendith i eraill yn dy enw di, trwy ledaenu’r newyddion da.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed gyda’i gilydd
Diolch i ti, Arglwydd,
pan fydd yn stormus o’n cwmpas ym mhobman, (chwifio dwylo yn egnïol)
fod dy gariad di yn ddigyfnewid. (dwylo dros y galon)
Diolch i ti, Arglwydd,
er ein bod yn bobl fregus, (meimio gwthio pobl i ffwrdd)
fod dy gariad di yn ddigyfnewid. (dwylo dros y galon)
Diolch i ti, Arglwydd,
fod dy drugaredd yn ysgubo drosom, (dal dyrnau allan o’ch blaen)
a’th gariad yn ddigyfnewid. (dwylo dros y galon)
Amen.
Gweddi i gloi
Arglwydd cariadlon,
diolch i ti am ein cyfarfod lle rydym,
ynghanol ac yn nryswch ein bywyd bob dydd.
Helpa ni i glywed dy alwad di,
i adnabod dy lais,
ac i ymateb i’th wahoddiad
i’th ddilyn di beth bynnag fyddwn yn digwydd bod yn ei wneud.
Amen.