Anturio a thyfu
Marc 4.26-34
Galwad i addoli
‘Mae’r ddaear yn orlawn o’r nefoedd, a phob llwyn cyffredin yn wenfflam o Dduw.’ (Elizabeth Barrett Browning, cyf.)
Addolwn ein Duw Greawdwr,
sydd wedi rhoi’r wyrth o fywyd i ni
ac sy’n ein cynnal trwy rythmau sanctaidd y blaned Daear.
Gweddi ymgynnull
Dyma ni, Dduw’r Creawdwr, Arglwydd ac Ysbryd,
yn sefyll o’th flaen, yn gadarn ar y ddaear,
a’n dwylo’n ymestyn yn uchel fel coeden.
Rwyt yn ein llenwi â syndod, Dduw rhyfeddol.
Amen.
Gweddi ddynesu
Dduw’r Creawdwr,
down â phopeth sy’n tyfu o’n mewn atat ti:
er mwyn i ti eu bendithio a’u meithrin.
Down â’n gweddïau dros ledaeniad dy deyrnas:
er mwyn i ti eu bendithio a’u meithrin.
Down â’r mentrau ar gyfer cynyddu cyfiawnder ymhlith cenhedloedd:
er mwyn i ti eu bendithio a’u meithrin.
Down â gobeithion a breuddwydion bach a mawr
dy holl blant ledled y byd:
er mwyn i ti eu bendithio a’u meithrin.
Yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi o addoliad
Dduw dirgelwch,
Heuwr, Gwaredwr, Ysbryd,
addolwn di;
a gofynnwn i ti roi i ni:
lygaid i sylwi ble mae hadau dy deyrnas yn tyfu,
dewrder i’w dangos i eraill,
digon o ffydd i helpu i’w meithrin,
a chalon sy’n ymhyfrydu yn eu cynhaeaf.
Amen.
Gweddi o gyffes
Dduw pawb a phopeth,
rwyt ti yn meithrin tyfiant yn hytrach na’i orfodi.
Maddau i ni pan fydd arnom eisiau gormod yn rhy fuan.
Rwyt ti yn dechrau yn fach yn hytrach na dechrau yn fawr.
Maddau i ni pan fydd arnom eisiau gormod yn rhy fuan.
Rwyt ti yn hau yn raslon yn hytrach nag yn farus.
Maddau i ni pan fydd arnom eisiau gormod yn rhy fuan.
Rwyt ti yn cysegru’r cynhaeaf yn hytrach na’i frysio.
Maddau i ni pan fydd arnom eisiau gormod yn rhy fuan.
Maddau i ni, a derbyn waith ein dwylo,
yn enw Iesu.
Amen.
Sicrwydd o faddeuant
Dduw byw,
o hedyn mwstard i goeden, o’r fi i’r ni,
ynot ti rydym yn tyfu. Amen.
Yn nirgelwch yr anweledig, o gae brown i wyrddni,
ynot ti rydym yn tyfu. Amen.
Trwy ffydd ac nid trwy weld, ddydd a nos,
ynot ti rydym yn tyfu. Amen.
Wedi derbyn maddeuant a chael ein rhyddhau, trwy air a gweithred,
ynot ti rydym yn tyfu. Amen.
Wrth i ni hau a medi, chwerthin a chrio,
ynot ti rydym yn tyfu. Amen.
Deled dy deyrnas, Dad, Ysbryd, Mab,
wrth i ni dyfu ynot ti.
Amen.
Gweddi o fawl
Dduw gras a thwf,
rwyt wedi galw arnom i hau hadau dy deyrnas
yng nghaeau dy fyd,
ac i ymddiried ynot ti y byddant yn datblygu ac yn ffynnu –
ac felly molwn di.
Am dy greadigrwydd helaeth:
molwn di.
Am weddnewid natur dy Ysbryd:
molwn di.
Am rym dechreuadau bychain:
molwn di.
Am ddirgelwch tyfiant cudd:
molwn di.
Ac am y cynhaeaf y’n gwahoddir ni i ymhyfrydu ynddo:
molwn di. Yn enw Iesu.
Amen.
Gweddi ar gyfer pob oed
Dduw byw,
agor ein llygaid i weld daioni dy gread. (edrych o gwmpas)
Helpa ni i ofalu amdano fel garddwr (meimio palu)
gydag amser i blannu, dyfrio, cynaeafu a gorffwyso. (meimio pob un)
Helpa ni i fyw yn rhythmau natur, (taro rhythm araf yn ddistaw)
gan gamu’n ysgafn (camau ysgafn ‘yn yr unfan’)
a chlywed dy lais yn galw’n dawel gyda’r nos. (llaw tu ôl i’r glust, yn gwrando).
Amen.
Gweddi
Ewch mewn tangnefedd i garu a gwasanaethu byd Duw.
Mae’n hardd ac rydych yn rhan ohono.
Ein comisiwn sanctaidd yw helpu Duw i’w garu.
Amen.